Beth i ddweud?
Yn gyntaf, croeso i'r dudalen newydd- lets get things straight (pardon the pun), amcan y dudalen yma yw i unrhyw un o bob oedran cyfrannu gwybodaeth am unrhyw beth yn y gymuned LHDT (LGBT i ti a fi) o gwmpas y wlad. Arbrawf bach ydy hyn, oherwydd does dim llawer o bresenoldeb gan y gymuned LGBT Cymraeg ar y rhyngrwyd- ond trystiwch fi, mae 'na ddigon ohonom ni i gael, jyst cwpwl o funudau yn pori'r ap grindr ar eich 'ffon glyfar' ac mae'n dipyn o syndod!! Os oes unrhyw newyddion am ddigwyddiad neu os ydych am gyfrannu i'r blog, yna rhowch e-bost neu gadewch sylwad- beth bynnag!!!Efallai dim ar y wefan 'blogger' yw'r lle orau i fod- mae trydar a facebook yn amlwg yn opsiynau go dda- ond am nawr- ma’ fan hyn yn iawn, efallai byddwn yn ehangu yn y dyfodol agos! Cawn weld.
Hwyl.
No comments:
Post a Comment