Monday 24 December 2012

Nadolig Llawen

Mae'r amser yna o'r flwyddyn wedi dod o gwmpas unwaith eto, mae'r misoedd o baratoi, siopa a chweryla gyda phobl am le i barcio ar fin dod i ben! Rydym wedi gweld nifer o newidiadau blaengar o fewn y gymuned LHDT rhyngwladol dros y flwyddyn- y rhai amlwg i wneud a chydraddoldeb priodas a chefnogaeth Barack Obama draw yn yr Unol Daliaethau. Er hyn, mae yna dal nifer sylweddol o wledydd sy'n barnu pobl hoyw ac mae'n rhaid i ni gofio ei'n fod yn ffodus byw mewn gwlad mor wych! Dyma anrheg fach dolig i chi nawr- dyma bortread Michael McIntyre a David Mitchell o'r cyfnod Nadoligaidd.
Nadolig Llawen!

Saturday 8 December 2012

Bydd dynion hoyw yn priodi eich cariadon!

Fideo hynod o ddoniol sy'n hyrwyddo priodas gyfartal. Diolch i @ElynStephens am dynnu fy sylw at y fideo.

Monday 26 November 2012

Bywyd tu ôl y camera- Tinopolis

Newydd gyrraedd nôl yn Aberystwyth ar ôl diwrnod bendigedig yn yn ymweld a stiwdio Tinopolis yn Llanelli. Mae'r cwmni Tinopolis yn gynhyrchydd cyfryngau rhyngwladol ac yn gyflenwr teledu annibynnol. Yn fwy agos i adre', mae'n cynhyrchu rhai o raglenni fwya’ adnabyddus S4C megis Heno, Prynhawn Da a Jacpot. Cawsom y cyfle i oruchwylio diwrnod nodweddiadol yn y stiwdio ar gyfer modiwl astudiaeth teledu aml gamera (multi-cam studio) yn y Brifysgol! Fe wnaethom ddysgu llawer am hanes y busnes, logisteg y stiwdio a thechnegau darlledu. Erbyn diwedd y diwrnod roeddwn ni'n ffodus i weld darlleniad byw rhaglen Heno o lawr y stiwdio ac i fyny yn y galeri (starship enterprise!)

Diolch i'r staff am groeso cynnes (ac i Huw Ffash y croeso trwy drydar!!)


Dyma rhai lluniau o'r set Heno ac o'r galeri.











Thursday 8 November 2012

Sengl? Hoffi Anifeiliaid?

Fi Neu'r Ci- ar y bocs yn 2013
Mae S4C yn lansio rhaglen newydd sbon ddetio, ond efo wahaniaeth!

Fi Neu'r Ci yw enw'r rhaglen sy'n cael ei gynhyrchu gan Gwmni Telesgop ac yn syml mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn gorfod edrych ar ôl anifail anwes, ac mewn ffordd sai’ cweit yn sicr ohono mae'n arwain at ddet gyda chariad eich bywyd!! 

Does dim angen Grindr rhagor bois bach, oherwydd mae'r cynhyrchwyr yn awyddus i greu pennod ar gyfer pobl Hoyw. Nid yma yw'r tro cyntaf mae S4C wedi comisiynu rhaglen o'r fath i'r grŵp LHDT.

Trydar @telesgop 
Cynharach y flwyddyn yma, cyhoeddwyd bu cwpl hoyw yn arddangos ar y rhaglen 'Sion a Sian.'

Os oes gennych diddordeb yna ffoniwch 01792 824567 neu hoffwch y dudalen Facebook.
   

Wednesday 31 October 2012

Tashwedd / Movember


Fi newydd wario £70 ar raser newydd posh fel 'treat' bach, ac ma'r bois newydd atgoffa fi bod ei'n dŷ yn gwneud Movember o yfory ymlaen- na wastraff arian! Er hyn mae movember yn achos gwych! Digwyddiad mis o hyd, flynyddol yw Movember (cymysgedd o'r gair slang "mo" ar gyfer mwstas a "November"). Mae wedi canoli o gwmpas tyfu mwstashis yn ystod mis Tachwedd. Cafodd y digwyddiad ei genhedlu ym 1999 gan grŵp o ddynion yn Adelaide, Awstralia. Yr enw Cymraeg yw "Tashwedd". Mae'r elusen gofrestredig yn codi arian ar gyfer ymchwil mewn i gancr pancreatig a chancr y gaill. 

Mae rhai o Gymru hefyd yn cefnogi Grow a Grav (ar ol Ray Gravell) sef yr un syniad ond yn rhoi cymorth i 'WRPA’s Benevolent Trust.' 

Mwy o wybodaeth:
Joiwch y partio Calan Gaeaf bois bach x

Friday 5 October 2012

Tristwch yn y Canolbarth

April Jones - 5 oed

Ymddiheuriadau am ddiflannu, heb flogio am sbel fach nawr- ond mae'n amser prysur o’r flwyddyn i mi ar ôl dychwelyd i'r brifysgol yn Aberystwyth. Roedd wythnos y glas yn weddol ddiffwdan, a nawr mae'n amser unwaith eto i ganolbwyntio ar y gwaith! Er yr holl fwynhau, mae'r teimladau yn y gymuned wedi newid dros yr wythnos ddiwetha' oherwydd diflaniad April Jones o Fachynlleth nos Lun. Mae'r cyfryngau cenedlaethol wedi bod yn canolbwyntio ar y dre fach ac mae ymateb y bobloedd wedi bod yn sylweddol. Erbyn heddiw, mae Mark Bridger hefyd o Fachynlleth yn y ddalfa yn Aberystwyth, wedi'u gyhuddo o lofruddiaeth.

Er bod y siawns yn fach, rydym ni dal yn gobeithio bydd April yn dychwelyd yn ddiogel ac yn iach i'r teulu. Mae meddyliau pawb efo'r teulu yn ystod yr amser trist, anodd yma.

Mwy ar Golwg360 http://www.golwg360.com/