Mae'r amser yna o'r flwyddyn wedi dod o gwmpas unwaith eto, mae'r misoedd o baratoi, siopa a chweryla gyda phobl am le i barcio ar fin dod i ben! Rydym wedi gweld nifer o newidiadau blaengar o fewn y gymuned LHDT rhyngwladol dros y flwyddyn- y rhai amlwg i wneud a chydraddoldeb priodas a chefnogaeth Barack Obama draw yn yr Unol Daliaethau. Er hyn, mae yna dal nifer sylweddol o wledydd sy'n barnu pobl hoyw ac mae'n rhaid i ni gofio ei'n fod yn ffodus byw mewn gwlad mor wych!
Dyma anrheg fach dolig i chi nawr- dyma bortread Michael McIntyre a David Mitchell o'r cyfnod Nadoligaidd.
Nadolig Llawen!
No comments:
Post a Comment