Newydd gyrraedd nôl yn Aberystwyth ar ôl diwrnod bendigedig yn yn ymweld a stiwdio Tinopolis yn Llanelli. Mae'r cwmni Tinopolis yn gynhyrchydd cyfryngau rhyngwladol ac yn gyflenwr teledu annibynnol. Yn fwy agos i adre', mae'n cynhyrchu rhai o raglenni fwya’ adnabyddus S4C megis Heno, Prynhawn Da a Jacpot. Cawsom y cyfle i oruchwylio diwrnod nodweddiadol yn y stiwdio ar gyfer modiwl astudiaeth teledu aml gamera (multi-cam studio) yn y Brifysgol! Fe wnaethom ddysgu llawer am hanes y busnes, logisteg y stiwdio a thechnegau darlledu. Erbyn diwedd y diwrnod roeddwn ni'n ffodus i weld darlleniad byw rhaglen Heno o lawr y stiwdio ac i fyny yn y galeri (starship enterprise!)
Diolch i'r staff am groeso cynnes (ac i Huw Ffash y croeso trwy drydar!!)
Dyma rhai lluniau o'r set Heno ac o'r galeri.
No comments:
Post a Comment