Sunday 9 September 2012

Strêt / Syth / Heterorywiol?!

Beth yw hwna yn y Gymraeg? 
Ma' na ddadl fach wedi cymryd lle ar drydar dros y diwrnodau diwethaf ynghylch tweet bach wnes i yn defnyddio'r gair 'syth' i ddisgrifio rhywun heterorywiol. Yn ôl rhai, 'strêt' ydy'r term cywir neu sy'n fwyaf diogel defnyddio ond yn fy marn i mae'n rhy Saesnegedd. Tra bod agweddau yn newid, a fwy o bobl yn gyfforddus yn son am y pwnc LHTD, mae angen bathu a safoni termau newydd, ac rwy'n credu bod yr ymateb wedi bod o’r fath yma oherwydd nid yw'r Cymry Cymraeg yn gyfarwydd a chlywed y geiriau megis 'syth' yn y cyd-destun yma ar rwydwaith cymdeithasol megis Trydar. Mae CymryHoyw yn torri tir newydd!!! 

Mae yna rhestr o rhai dermau ar gwefan stonewall:


@DylFosterEvans am cyfrannu ar trydar!

2 comments:

  1. Ond, fel y soniodd rhywun ar twitter, dydi "syth" ddim yn cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg i sôn am ymddygiad ac felly mae'n swnio'n chwithig yn y cyd-destun yma. Yn Saesneg, alli di ddweud "I'm straight - I always speak my mind" ond fyset ti ddim yn defnyddio "syth" yn y cyd-destun yna. Os mai bod yn Gymreigaidd yw'r nod, dw i'n meddwl y byddai'n well meddwl am air Cymraeg addas yn hytrach na defnyddio un anaddas sydd wedi'i gyfieithu'n llythrennol o'r Saesneg.

    ReplyDelete
  2. O'n i'n meddwl fod "syth a gonest" yn ymadrodd eitha adnabyddus, Siân.

    O ran 'hoyw' mae hynny yn gyfieithiad llythrennol o'r saesneg heb hanes a chefndir y term hwnnw. Roedd gay wedi dod i olygu 'rhydd' neu 'agored' o ran rhyw (puteiniaid neu dyn sengl oedd yn ferchetwr). Erbyn yr 20fed ganrif roedd gay a straight yn disgrifio agwedd rhywun at rywioldeb (rhyddfrydol/gwahanol yn erbyn ceidwadol/caeth).

    Ydi hoyw yn gyfieithiad gwael felly, gan nad oes yr un hanes i'r term saesneg?

    O ran heterosexual a homosexual mae rheiny yn eiriau ffurfiol, meddygol eu natur (ac yn defnyddio gwreiddiau Groeg/Lladin). Dwi ddim yn gwybod pam fod gwrthwynebiad iddyn nhw mewn cyd-destun ffurfiol, er mae'n bosib eu dweud nhw mewn ffordd atgas. Er, mae'n ddigon posib eu ad-ennill nhw (Julian Clary er enghraifft yn hoffi cyfeirio at ei hun fel 'renowned homosexual').

    Wrth gyfieithu'r geiriau ffurfiol yma, cysondeb sydd angen. Yn Gymraeg - gwahanrywiol a cyfunrywiol. Does dim pwynt cyfieithu hanner y gair e.g. heterorywiol.

    Dyw'r drafodaeth yma yn ddim byd newydd chwaith. Os ydych eisiau bathu gair Cymraeg ar gyfer yr holl rywioldeb tu allan i'r 'norm' yna dwi'n dal i hoffi awgrym Dafydd Frayling o'r 80au - hyfrydion neu bobl hyfryd.

    ReplyDelete