Sunday, 9 September 2012

Strêt / Syth / Heterorywiol?!

Beth yw hwna yn y Gymraeg? 
Ma' na ddadl fach wedi cymryd lle ar drydar dros y diwrnodau diwethaf ynghylch tweet bach wnes i yn defnyddio'r gair 'syth' i ddisgrifio rhywun heterorywiol. Yn ôl rhai, 'strêt' ydy'r term cywir neu sy'n fwyaf diogel defnyddio ond yn fy marn i mae'n rhy Saesnegedd. Tra bod agweddau yn newid, a fwy o bobl yn gyfforddus yn son am y pwnc LHTD, mae angen bathu a safoni termau newydd, ac rwy'n credu bod yr ymateb wedi bod o’r fath yma oherwydd nid yw'r Cymry Cymraeg yn gyfarwydd a chlywed y geiriau megis 'syth' yn y cyd-destun yma ar rwydwaith cymdeithasol megis Trydar. Mae CymryHoyw yn torri tir newydd!!! 

Mae yna rhestr o rhai dermau ar gwefan stonewall:


@DylFosterEvans am cyfrannu ar trydar!

Tuesday, 28 August 2012

Mensh bach ar GaydarRadio!


Cyflwynydd Gaydar Radio- Simon Le Vans

Yn ddiweddar rwyf wedi dechrau dangos diddordeb yn y cyfryngau hoyw- darganfyddiad bach grêt i mi oedd GaydarRadio. Gorsaf radio sy'n chwarae cymysg o ddawns gyfoesol a pop prif-lif, ac sy'n cynnwys newyddion o'r gymuned LHDT. Felly pan o ni di creu statws ar drydar heddiw yn son am Gaydar radio, y peth olaf roeddwn ni'n meddwl byddai'n digwydd yw bod Simon Le Vans (yn syml Chris Moyles y gymuned hoyw!) yn mynd i gyfieithu'r tweet a'i ddarlledu ar y rhaglen.

Mae rhaglen Simon Le Vans yn cynnwys yr anthemau clwb clasurol ynghyd a ffefrynnau modern- fy hoff gerddoriaeth. Yn fy marn i mae'r orsaf yn well na Radio 1, mae'r gerddoriaeth dawns gyfoesol yn cael eu chwarae trwy'r dydd (sy'n grêt) ac mae rhai o’r hysbysebion megis rhai busnesau adeiladu sy'n ceisio targedu’r gymuned hoyw yn ddoniol iawn- cefais i bach o sioc pan glywais i nhw cynta'!

To read this blog in English-click here.

Sunday, 26 August 2012

Priodas neu beidio?

Partneriaeth Sifil- Nid Priodas!
Mae yna lot o helynt wedi bod yn y cyfryngau am y sefyllfa yn yr Alban ar y foment. Mae'r Eglwys Gatholig heddiw wedi condemnio llywodraeth yr Alban trwy ddweud gall priodas ond fod rhwng dyn a menyw. Ym mhersonol, does dim llawer o ots da fi beth sy'n digwydd- dwi’n llawer yn rhy ifanc i ddechrau sôn am briodi, ond i fod yn onest, yn y gymdeithas fodern oddefgar sy'n pwysleisio yn llai ar grefydd nag erioed o’r blaen, mae'r gallu i sefydlu partneriaeth sifil, sydd yn gyfreithlon unfath a phriodi- yn ddigonol i mi! Er hyn, mae'r llywodraeth yma yn camu yn y cyfeiriad cywir- sy'n wahanol i weddill y byd! Be chi'n feddwl te?

Wednesday, 22 August 2012

Geirfa newydd ar Gwefreiddiol

Cyflwynydd- Dylan Ebenezer 

Os nad ydych wedi dod ar draws y rhaglen yma yn y ffordd gonfensiynol, rwy'n argymell chi fynd ar s4c clic i dal i fyny. Rhaglen banel sy'n son am agweddau doniol y we, yn ogystal â newyddion a chlebran o fyd y selebs (popeth o drydar wrth gwrs)! Ar ôl gwylio'r rhaglen, fi nawr yn gwybod beth yw ystyr Cala Goeg (peidiwch a gofyn).

Mwy o gynnwys fel hyn sydd angen ar s4c i atynnu fwy o gynulleidfa yn fy marn i!

Chwaraewr rygbi a cydraddoldeb priodas

David Pocock- Blaenasgellwr
Mae chwaraewr rygbi Awstraliaidd David Pocock wedi addo i beidio priodi ei girlfriend tan fod deddfau cydraddoldeb priodas yn cael ei newid yn y wlad.

Fe wedodd: “How can we be challenging homophobia when we’re saying. ‘You’re equal to me but you’re separate. I’ll go sign this [marriage] document here but you can go have your civil union,’ which is the same, but not, really.

Mae pethau yn amlwg yn mynd yn y cyfeiriad cywir ac mae agweddau yn newid, ond mae angen i lywodraethau rhyngwladol adlewyrchu barnau'r bobloedd. Ar y llaw arall, roedd pobl Cameroon yn dathlu diwrnod 'anti-gay' ddoe. Mae Sefydliad Peter Tatchell yn gwneud llawer o waith i ymwneud ac iawnderau dynol ar draws y byd. http://www.petertatchellfoundation.org/


Saturday, 11 August 2012

Blachder Gogledd Cymru

Bydd digwyddiad BALCHDER Gogledd Cymru (North Wales Pride) rhwng y 5ed a'r 7fed Hydref 2012 yn Neuadd Hendre ger Bangor am y tro cynta' erioed. Mae'r digwyddiad yn cael eu rhedeg gan nifer bach o wirfoddolwyr Cymru Pride Wales. 
Tocynnau ar gael yn:
RASCALS BAR (Bangor Uwch), THE 3 CROWNS PUB (Bangor), ZERO SHOP (High St Bangor), Cash4Gold (Wrecsam) and Cwpwrdd Cornel (Llangefni).

Ar gael nawr am £15 (argaeledd prin)

Friday, 10 August 2012

GayWalesGuide a mwy...

Diwrnod braf eto yn y Gorllewin heddiw, gobeithio ma' pawb sy' digon ffodus i fynd i'r 'steddfod yn cael amser arbennig. Hoffwn ddiolch i Garry sy'n rhedeg gay wales guide (gaywalesguide.co.uk) sy' wedi ychwanegu cyswllt ni ar ei wefan! Rydw i'n bwriadu cydweithio gyda fe trwy cyfieithu cylchlythyr nhw a fydd yn arddangos yma. Mae gaywales.co.uk llawn lot fawr o wybodaeth defnyddiol i unrhywun LHDT sydd yn byw yma yng Nghymru - mae'n cynnwys rhestr cyflawn o'r cyrchfannau hoyw gorau a digwyddiadau o pob cwr y wlad yn ogystal a rhifau ffon a chysylltiadau i nifer o elusennau a mudiadau lleol a cenedlaethol! Hoffwn hefyd ddiolch am y cefnogaeth sydd wedi bod ar trydar (twitter), plis plis lledaenwch y gair- ailtrydar bach os gwelwch yn dda.
Over and out.